Nid ydych chi wedi mewngofnodi (Mewngofnodi)

Site news

 
 
Llun o Lois Jones
Llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd, Y Bala
gan Lois Jones - Friday, 6 June 2014, 1:42 PM
 

Fe gafodd Ysgol Morgan Llwyd eisteddfod i'w chofio yn Eisteddfod yr Urdd, Y Bala 2014.

Balch iawn oeddem o weld y Côr Merched SA Blwyddyn 13 ac iau yn cael 2il a Chôr SATB Blwyddyn 13 ac Iau yn cael trydydd ar y prynhawn dydd Gwener ac i goroni'r wythnos, death yr ysgol yn fuddugol yn y gystadleuaeth Detholiad o Ddrama gerdd Blwyddyn 7 - dan 25 oed ar y dydd Sadwrn olaf.  Llongyfarchiadau mawr iawn i'r holl ddisgyblion oedd yn rhan o'r corau a diolch yn fawr i'r staff am eu hyfforddi.

Gellir gweld y perfformiadau buddugol ar wefan s4c: http://www.s4c.co.uk/urdd/

Oddi ar y llwyfan, daeth grwp Paradwys yr ysgol yn 2il yn y gystadleuaeth cân wreiddiol, llongyfarchiadau i Elin Bartlett, Elizabeth Mwale, Elin Williams, Talulah Thomas a Lucy Mwale.

Yn yr adran gwaith cartref, daeth Catrin Williams i'r brig mewn cystadleuaeth cyfansoddi ac fe gafodd Ella Oldfield ail yn yr adran gemwaith.

Llongyfarchiadau mawr i bawb.