Llwyddiant chwaraeon
Llongyfarchiadau mawr i Abbie Hosie (bl.9) ar gael ei dethol i fod yng ngharfan Pêl-rwyd Gogledd Ddwyrain Cymru. Hefyd i Alex Rowlands, Ifan Roberts, Jack Jones a Joseff Edwards (bl.7 i gyd), ac Aled Bailey ac Efan Jones (bl.9) sydd wedi cael eu dewis i chwarae pêl-droed dros Sir Wrecsam. Hefyd i Owen Evans (bl.10) a gafodd ei ddewis i chwarae i dîm Rygbi Gogledd Cymru a Derwyn Brooks (bl.10) sydd yn chwarae rygbi i dîm Gogledd Ddwyrain Cymru. Mae Jordan Williams (bl.11) yn parhau i fod yn llwyddiannus ym myd Pêl-droed, ac erbyn hyn wedi ennill y fraint o fod yn gapten ar dîm Pêl-droed o dan 16 Lerpwl ac yn aelod o garfan Cymru o dan 17. Pob hwyl iddynt i gyd yn yr ymarferion, gemau a threialon sydd i ddod.
Llongyfarchiadau mawr hefyd i Will Rosson (bl.11), Chloe Pritchard (bl.11), Euron Roberts (bl.9) a Phoebe Hughes (bl.9) ar eu llwyddiant yng Nghystadleuaeth Nofio’r Urdd, i gyd yn dod yn 1af neu 2il yn eu rasys. Mi fydd Will, Chloe ac Euron yn mynd ymlaen i gystadlu yng Ngala Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerdydd ym mis Ionawr. Pob hwyl iddynt.
Ac yn olaf...pob lwc i’r disgyblion sydd yn cynrychioli’r ysgol yng nghystadlaethau Trawsgwlad Ysgolion Wrecsam yr wythnos yma.
Sporting success
Congratulations to Abbie Hosie (Year 9) on being selected for the North East Wales Netball squad . Also to Alex Rowlands, Ifan Roberts, Jack Jones and Joseph Edwards (Year 7), and Aled Bailey and Efan Aled Jones (Year9) who have been chosen to play football for Wrexham County. Also, to Owen Evans (Year 10) who is selected to play for the North Wales Rugby team and Derwyn Brooks (Year 10) who plays rugby for the North East Wales team. Jordan Williams (Year11) continues to be successful in the world of football, and by now has gained the privilege of being captain of the Liverpool Under 16 Football team and is a member of the Wales under 17 squad. Good luck in all the training sessions, games and trials.
Congratulations also to Will Bosson (Year11), Chloe Pritchard (Year11), Euron Roberts (Year 9) and Phoebe Hughes (Year 9) on their success in the Urdd Swimming Competition, all came 1st or 2nd in their races. Will, Chloe and Euron will go on to compete in the Urdd National Gala in Cardiff in January. Good luck to them.
And finally ... good luck to the pupils representing the school in the Wrexham Schools Cross Country competitions this week.